J. Paul Getty | |
---|---|
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1892 Minneapolis |
Bu farw | 6 Mehefin 1976 Guildford |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | economeg, gwyddor gwleidyddiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | casglwr celf, hunangofiannydd, entrepreneur, diwydiannwr, noddwr y celfyddydau |
Tad | George Getty |
Mam | Sarah Catherine McPherson Risher |
Priod | Ann Rork Light, Jeannette Dumont, Allene Ashby, Adolphine Helmle, Theodora Getty Gaston |
Partner | Ursula d'Abo |
Plant | Gordon Getty, John Paul Getty Jr, Jean Ronald Getty, Timothy Getty, George Franklin Getty II |
Llinach | Getty family |
Roedd Jean Paul Getty (15 Rhagfyr, 1892 - 6 Mehefin, 1976) yn ddiwydiannwr Eingl Americanaidd,[1] ac yn batriarch y teulu Getty. Fe sefydlodd Cwmni Olew Getty, ac yn 1957, dywedodd cylchgrawn Fortune mae ef oedd yr Americanwr cyfoethocaf ar dir y byw,[2] a dywedodd Guinness Book of Records 1966 mae ef oedd dinesydd preifat cyfoethoga'r byd, gwerth $ 1.2 biliwn ar y pryd (tua $ 9.05 biliwn yn 2018).[3] Ar ei farwolaeth, roedd yn werth mwy na $6 biliwn (tua $ 25.8 biliwn yn 2018).[4] Fe wnaeth llyfr a gyhoeddwyd ym 1996 ei nodi fel yr 67 fed Americanwr cyfoethocaf a fu erioed, yn seiliedig ar ei gyfoeth fel canran o'r cynnyrch cenedlaethol gros.[5]
Er gwaethaf ei gyfoeth helaeth, roedd Getty yn ddarbodus gyda'i arian, yn enwedig wrth negodi pridwerth ei ŵyr wedi iddo gael ei herwgipio ym 1973.
Roedd Getty yn gasglwr brwd o gelf a hynafiaethau; roedd ei gasgliad yn sail i Amgueddfa J. Paul Getty yn Los Angeles, Califfornia, a chafodd dros $ 661 miliwn (tua $ 2.8 biliwn yn 2017) o'i ystâd ei adael i'r amgueddfa ar ôl ei farwolaeth.[4] Sefydlodd Ymddiriedolaeth J. Paul Getty ym 1953. Yr ymddiriedolaeth yw sefydliad celf cyfoethoga'r byd, ac mae'n gweinyddu Campws Amgueddfa J. Paul Getty: Y Ganolfan Getty, Fila Getty, Sefydliad Getty, Sefydliad Ymchwil Getty a Sefydliad Cadwraeth Getty[6]
|dead-url=
ignored (help)
|work=
(help)